Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:46, 26 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, os oes gan unrhyw un bryder, wrth gwrs, gallant godi'r pryder hwnnw yn uniongyrchol gyda'r bwrdd iechyd, gyda'u AC, neu gyda'r Gweinidog iechyd, yn wir. Ceir ffordd o wneud hynny. Nid ydym ni'n ymwybodol o unrhyw bryderon, ond mae'n amlwg yn briodol bod archwiliad i wneud yn siŵr bod y cydymffurfiad yn dal i fod yno yn y ffordd y byddem ni'n dymuno iddo fod. Dyna'r ffordd y byddwn ni'n ceisio rhoi sicrwydd i gleifion a'u teuluoedd ar draws y GIG.