Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:42, 26 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ar ddiwrnod pan ddylai'r bai gael ei roi ar San Steffan, lle gwnaed y penderfyniad, mae Plaid Cymru yn ceisio troi hwn yn ymarfer mewn cyflwyno eu hunain fel eu bod yn berthnasol pan, mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r rhain. Nid yw cwestiynau i'r Prif Weinidog yn cynnwys ateb cwestiynau am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Dyna un o'r pethau sy'n gwbl eglur. Rwyf i yma i roi safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae'n fater o ofid mawr heddiw, wrth i wleidyddion o bob cwr o Gymru fynegi eu pryder ynghylch y penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU—hyd yn oed y rhai hynny ym Mhlaid y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi mynegi eu barn—bod Plaid Cymru wedi penderfynu rhoi rhwydd hynt iddyn nhw.