Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:44, 26 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ei fod yn iawn am y sylw i'r chwistrellau yn y cyfryngau. Roedd y gyrwyr chwistrell, o'r enw Graseby MS26 a Graseby MS16A, yn cael eu llwytho gyda chapsiwlau wedi eu rhaglennu i ryddhau cyffuriau i lif gwaed claf dros gyfnod estynedig. Roedden nhw'n darparu cyffuriau ar wahanol gyfraddau, ac, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod o'r adroddiad bod hynny wedi arwain at or-drwytho peryglus o gyffuriau. Cyhoeddwyd hysbysiadau o berygl gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a chynhyrchion Gofal Iechyd—MHRA—i sicrhau bod staff y GIG yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y modelau. Roedd hyn hefyd yn destun cyhoeddiad Asiantaeth Diogelwch Cleifion Genedlaethol ar draws Cymru a Lloegr—adroddiad ymateb cyflym—ym mis Rhagfyr 2010, a roddodd bum mlynedd i'r GIG bontio i yrwyr â nodweddion diogelwch ychwanegol gan liniaru'r risg yn y cyfamser. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod holl sefydliadau perthnasol GIG Cymru wedi cadarnhau cydymffurfiad â'r gofyniad diogelwch cleifion hwnnw. Byddwn yn ysgrifennu at fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd gan ofyn iddyn nhw archwilio arferion presennol a rhoi sicrwydd eu bod yn dal i gydymffurfio â'r cyngor hwn, a deallaf y bydd yr un peth yn digwydd yn Lloegr.