Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:49, 26 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd yn cymryd mwy na hynny. Rwy'n credu mai un o'r materion y mae angen rhoi sylw iddyn nhw yw bod angen i ni wneud yn siŵr bod manwerthwyr ar-lein yn talu trethi yn briodol. Y gwir amdani, os ydych chi'n siop, yw eich bod chi'n talu ardrethi busnes. Efallai eich bod chi'n cystadlu gyda rhywun sy'n talu'r nesaf peth i ddim, gan eu bod nhw ar-lein, a cheir materion yn hynny o beth mai dim ond Llywodraeth y DU sy'n gallu eu datrys. Maen nhw wedi bod yn faterion sydd wedi codi droeon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond dyna lle mae'n rhaid creu'r sefyllfa o chwarae teg. Nid yw dweud yn syml, wel, gan fod siop ar-lein sydd wedi'i lleoli y tu allan i'r DU neu'n ddarostyngedig i gyfundrefn dreth fwy ffafriol—nid yw byth yn mynd i weithio ar gyfer y stryd fawr, os caf ei roi felly, na hyd yn oed i'r cadwyni mwy, os ydyn nhw'n cystadlu yn erbyn manwerthwyr ar-lein nad ydyn nhw'n talu'r un trethi ag y maen nhw'n eu talu, a dyna lle y credaf y dylai'r pwyslais fod.