Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 26 Mehefin 2018.
Brif Weinidog, o ran CDLlau, mae'n bwysig iawn, yn amlwg, bod lleisiau pobl leol yn cael eu clywed yn y broses. Mae'n ymddangos yn y system bresennol fod diffyg cysylltiad â'r gallu i bobl leol deimlo bod ganddyn nhw ddylanwad yn natblygiad CDLlau. Rwy'n sylweddoli mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hwnnw, ond mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau'r CDLlau hynny yn y pen draw. Ble ydych chi'n credu y gellir gwneud gwelliannau gwirioneddol yn y broses fel nad yw cymunedau lleol yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio o ddatblygiad cynlluniau sydd i fod i lywodraethu datblygiad eu cymunedau eu hunain?