Economi Hydrogen

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:59, 26 Mehefin 2018

Diolch am yr ateb, ond, wyth mlynedd yn ôl, fe gyhoeddodd Peter Hain a Jane Davidson y byddai'r M4 yn dod yn briffordd hydrogen i Gymru, a byddai, erbyn hyn—ers dwy flynedd, a dweud y gwir—restr o lefydd i storio hydrogen, i ddefnyddio hydrogen, fel rhan o drafnidiaeth a oedd yn cael ei datgarboneiddio. Nid ŷm ni wedi gweld y freuddwyd yna wedi'i gwireddu ac nid ŷm ni wedi gweld nemor ddim yn symud ymlaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu potensial hydrogen. Rŷm ni newydd fod yn trafod, drwy'r bore yma, datgarboneiddio economi Cymru. Dyma dechnoleg a ddyfeisiwyd yng Nghymru, lle mae yna ymchwil, ar hyn o bryd, yn digwydd ym Maglan a llefydd tebyg, lle mae yna gyfle euraidd i Lywodraeth Cymru nid yn unig i arwain yng Nghymru, ond i arwain yn rhyngwladol. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle yma i fod, fel y dywedoch chi wrth Leanne Wood, yn bold and brave?