Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 26 Mehefin 2018.
Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am drefnu lle ar gyfer y ddadl ddienw yfory? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gan y Cynulliad gyfle i drafod nid yn unig bod gennym ddatganiad ar y morlyn llanw heddiw, ond i drafod mewn gwirionedd yr amgylchiadau gwleidyddol a arweiniodd at y penderfyniad hwn. Yn amlwg, mae Plaid Cymru yn teimlo, yn ein cynnig, nad oes gennym ffydd bellach yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru nac, yn wir, yn y swydd, mewn gwirionedd, nac yn y ffordd y defnyddir y swydd honno, yn hytrach na fel pont rhwng y lle hwn a San Steffan i gyflawni uchelgeisiau Cymru, fel rhwystr a giât rhwng ein huchelgeisiau ni a rhai San Steffan. Felly, credaf y bydd y bleidlais yfory yn bwysig iawn. Rwyf ar ddeall ei bod yn agored i welliannau heddiw. Rwy'n siŵr na fydd y Llywodraeth yn cytuno â phob agwedd yr ydym ni wedi ei chymryd yn hyn o beth, ond rwy'n gobeithio na fyddwch chi'n dirymu'r cynnig yfory ac y byddwn ni'n anfon neges gref iawn at yr Ysgrifennydd Gwladol am ei berthynas â'r lle hwn fel Senedd, ond hefyd o ran y ffordd y mae'n gweithredu ar ein rhan yn Llundain. Rwy'n credu mai ein dyletswydd ni yw anfon y neges honno yn dilyn y digwyddiadau y byddwn yn eu trafod ymhellach y prynhawn yma. Diolch i chi unwaith eto am gyflwyno'r datganiad ar y morlyn llanw fel y gallwn gael dadl yn y dyfodol.
A gaf i ofyn dim ond un neu ddau o bethau penodol ynghylch sut y gallai'r Llywodraeth ymdrin â busnes dros yr ychydig wythnosau nesaf? Yn gyntaf oll, rwyf ar ddeall bod Bil yr UE (Ymadael) wedi dod yn Ddeddf heddiw, a bod John Bercow, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, wedi nodi cydsyniad y Frenhines i'r Bil. Felly, gan fod gennym ni Ddeddf yr UE (Ymadael) rwy'n cymryd, oni bai y byddwch yn dweud wrthyf yn wahanol, y bydd y cytundeb rhynglywodraethol, yr ydych wedi ei gytuno â Llywodraeth San Steffan yn dod i rym, a byddwch felly yn ceisio diddymu y gyfraith sy'n deillio o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, sydd hefyd yn Ddeddf, wrth gwrs. Felly, mae gennym ni ddwy Ddeddf nawr nad ydyn nhw o angenrheidrwydd yn cydweddu â'i gilydd, neu, o leiaf, nad ydyn nhw'n cydweddu â chytundeb rhynglywodraethol.
A allwch chi egluro i ni beth fydd y broses a ddefnyddir i wneud hyn ddigwydd? Sut y caiff Bil ei dynnu'n ôl? Nid ydym wedi gwneud hyn o'r blaen. Felly, sut yr ydym ni'n tynnu Bil yn ôl, sydd wedi dod yn Ddeddf, mewn gwirionedd? Pa ymgynghoriad a fydd? Sut y bydd hynny'n digwydd? Beth fydd y dadleuon—? Pa ran, yr ydych chi'n ei ragweld, y bydd y Senedd hon yn ei chwarae yn hynny o beth? Sut byddwn ni'n sicrhau'r drafodaeth ehangaf bosibl ynglŷn â hynny? Yn amlwg, rydych chi wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw fel cytundeb rhynglywodraethol, ond bydd gan rai ohonom wahanol safbwyntiau ar hynny, a byddwn ni'n awyddus i sicrhau y dilynir y prosesau priodol a'n bod ni'n cael dweud ein dweud ar hyn. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi yn fawr iawn pe byddech chi'n cyflwyno sut yr ydych chi'n bwriadu sicrhau, yn eich barn chi, y bydd y Ddeddf nawr yn cael ei thynnu'n ôl.
Yr ail beth yr hoffwn i ei godi gyda chi yn fyr—sydd eisoes wedi'i drafod, ond nid yr agwedd benodol hon—yw'r broblem o ran gamblo. Mae gennym ni, ac mae llawer ohonom ni'n ei groesawu, y terfyn £2 ar y peiriannau ods sefydlog. Roeddem ni'n siomedig iawn i ddeall bod hynny bellach yn mynd i gael ei ymestyn i o leiaf 2020. Felly, nid yw Llywodraeth San Steffan am wneud dim am ddwy flynedd o leiaf ar hyn. Mae gennym ni argymhellion cryf iawn gan ein prif swyddog meddygol. Mae gennym ni addewid wedi'i lofnodi gan aelodau o bob plaid, addewid traws-bleidiol ar grŵp trawsbleidiol yma i weithredu ar hyn. Byddai'n ddiddorol gwybod pa un a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad deddfwriaethol— neu fwriad rheoleiddio—i ddefnyddio'r pwerau cyfyngedig ond pwysig er hynny sydd gennych chi erbyn hyn i ymdrin â'r pla peiriannau ods sefydlog. Drwy ohirio am ddim ond dwy flynedd, amcangyfrifir y bydd siopau betio yn elwa ar £4 biliwn. Dyna faint y busnes hwn erbyn hyn, ac mae dioddefaint difesur y rhai sy'n mynd yn gaeth i hapchwarae trwm o'r fath yn amlwg a chafodd ei arddangos yr wythnos diwethaf yn y gynhadledd yn y Pierhead. Felly, beth y mae'r Llywodraeth yn debygol o'i wneud, a pha gamau yr ydym ni'n debygol o'u gweld ar hapchwarae?