Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 26 Mehefin 2018.
Rwy'n cytuno yn llwyr â beth ddywedodd Mike Hedges yn fanna, ond rwyf eisiau estyn y drafodaeth ychydig. Rydw i'n meddwl bod y penderfyniad yma gan Lywodraeth San Steffan, a dweud y gwir, yn ein pardduo ni i gyd fel gwleidyddion. Pan ŷch chi'n cael datganiad polisi mewn maniffesto y byddwch chi'n cefnogi morlyn llanw yn Abertawe dim ond tair blynedd yn ôl, ac ŷch chi'n torri—yr un blaid yn torri'r addewid maniffesto yna—pan ŷch chi mewn sefyllfa i wrthod £1.3 biliwn ar gyfer datblygiad o bwys yn Abertawe, ond yn derbyn ac yn rhoi £1 biliwn i 12 Aelod Seneddol yng Ngogledd Iwerddon jest i gadw eich Llywodraeth mewn grym, dyma beth sydd yn pardduo gwleidyddiaeth.
Nid ydw i'n synnu bod pobl felly yn ymateb drwy ddweud, 'Wel, nid ydym byth yn cael dim byd o'r system yma', ac mae yna berig inni i gyd yn y ffordd mae Llywodraeth San Steffan wedi gwneud y penderfyniad yma, y ffordd maen nhw wedi estyn y penderfyniad, y ffordd y gwnaethon nhw gomisiynu adroddiad annibynnol ac wedyn gwrthod yr adroddiad gan eu bod nhw ddim yn hoffi'r canfyddiadau.
Mae'n ein gadael ni mewn picil, rydw i'n meddwl. Rydw i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet am weithredu yn gadarnhaol yng Nghymru, ond pa neges mae hwn wedi ei gyrru i'r holl gwmnïau sydd yn ymwneud ag ynni o'r môr? Rŷch chi wedi sôn am rai ohonyn nhw. Rydw i'n ymweld ag Ynys Môn fy hun diwedd yr wythnos—fe fydda i'n ymweld â Morlais a SEACAMS. Mae yna dros £100 miliwn o arian Ewropeaidd ac arian Llywodraeth Cymru wedi mynd tu fewn i'r sector yma, ac yn awr maen nhw'n gweld fod y Llywodraeth ddim am gefnogi'r sector. Achos nid yn unig y cynlluniau a'r arbrofion sy'n bwysig—mae'n rhaid dod â'r cynlluniau yna i'r lan, ac mae dod â nhw i'r lan yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw gael grid connections a bod yn rhaid iddyn nhw gael contract for difference. Er mwyn troi'r cynlluniau yma yn ffordd o gynhyrchu ynni go iawn, mae'n rhaid i Lywodraeth San Steffan wneud yr un penderfyniad yng nghyd-destun y cynlluniau yna ag y maen nhw wedi gwrthod ei wneud yng nghyd-destun y morlyn llanw.
Felly, er fy mod i'n croesawu’r ffaith eich bod chi am gynnal uwchgynhadledd yn Abertawe, roedd uwchgynhadledd ynni'r môr yn Abertawe ond flwyddyn yn ôl, lle roedd yr holl sector tu ôl i'r morlyn llanw ac am ei weld e fel rhywbeth a oedd yn arwydd o gred yn y sector yma. Sut ydych chi'n mynd i adfer cred yn y sector yma gan fod Llywodraeth San Steffan wedi dweud wrth bob buddsoddwr, bach a mawr, 'Cerwch i ffwrdd, nid oes diddordeb gyda ni yn y sector yma bellach; rŷm ni ond â diddordeb yn y sector niwclear a'r sector gwynt bant o'r tir mawr'? Mae honno'n neges anodd iawn.
A gaf i ofyn ichi hefyd beth wnewch chi nawr fel Llywodraeth gyda'r £200 miliwn rŷch chi wedi'i gynnig i'r cynllun yma? A ydy'r £200 miliwn yna nawr ar gael ar gyfer gwireddu prosiectau carbon isel o'r math yma yn y môr neu efallai ar y tir mawr? Nid oes gen i ddim gwybodaeth am hyn, ond gan y bydd, mae'n siŵr gen i, y cwmni sydd y tu ôl i'r cynllun yma yn gorfod rhywsut ddirwyn i ben mewn rhyw ffordd, ac er mwyn osgoi beth roedd Mike Hedges yn ei danlinellu, sef ein bod ni bellach yn derbyn mewnfuddsoddiad yn hytrach na chreu a pherchen ar y dechnoleg ei hunan, a oes modd i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gallan nhw fynd mewn i bartneriaethau gyda naill ai'r cwmni presennol, Tidal Lagoon Power, neu darpar gwmnïau eraill, i gadw'r wybodaeth yma yng Nghymru, i gadw'r dechnoleg, i gadw'r arweiniad yma yng Nghymru? A ydy'r £200 miliwn ar gael ar gyfer yr addewid yna? Achos mae'n ymddangos i mi, er eich bod chi wedi gwrthod syniadau Leanne Wood ynglŷn â chwmni ynni i Gymru, mae gyda chi adnoddau fan hyn i wneud gwahaniaeth ac i ddangos i fuddsoddwyr bod Cymru ar agor i fusnesau ynni o'r môr.