5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyhoeddiad Diweddar Grŵp Airbus

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:25, 26 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i wneud y datganiad hwn heddiw. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Grŵp Airbus eu hasesiad risg eu hunain i amlinellu'r bygythiadau difrifol i'w busnes pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ymadael. Mae'r asesiad risg yn peri pryder mawr; mae'n nodi, pe bai’r DU yn gadael yr UE y flwyddyn nesaf heb fargen, a heb gyfnod pontio, y byddai hynny'n arwain at aflonyddwch a tharfu difrifol ar gynhyrchiant yn y DU ac yn gorfodi Airbus i ailystyried eu buddsoddiadau yn y DU a’u dyfodol hirdymor yn y wlad. Hyd yn oed gyda chyfnod pontio, byddai Brexit caled sy'n mynd â’r DU allan o'r farchnad sengl a’r undeb tollau’n gwneud i’r cwmni ailasesu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Fel y dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae’r rhybudd hwn yn peri pryder difrifol iawn i economi Cymru. Mae cwmnïau fel Airbus nawr wrthi o ddifrif yn gwneud cynlluniau yn seiliedig ar y sefyllfa waethaf. Mae’r hyn y mae busnesau wedi bod yn ei ddweud yn breifat ers cryn amser nawr yn cael ei ddweud yn gyhoeddus, ac mae'n amlwg eu bod yn colli ffydd yng ngallu Llywodraeth y DU i negodi canlyniad synhwyrol sy'n gweithio dros ein heconomi ac yn diogelu swyddi. Mae fy neges i Lywodraeth y DU yn un syml iawn a chlir iawn: mae’r sefyllfa’n argyfyngus erbyn hyn ac mae'n bryd iddyn nhw gydnabod y bygythiad sylfaenol y mae eu ffordd o fynd i'r afael â Brexit yn ei beri i Gymru, i'n heconomi ac i'n cymunedau. Mae'n bryd inni ddiystyru sefyllfa 'dim bargen' ac ail-ddechrau'r trafodaethau ar sail sy'n rhoi swyddi a'r economi yn gyntaf.

Rydym ni'n rhannu’r pryderon sylweddol a fynegodd prif swyddog gweithredol awyrennau masnachol Airbus, Tom Williams, yr wythnos diwethaf. Grŵp Airbus yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru yn y sector awyrofod ac amddiffyn; maen nhw’n cyflogi tua 6,500 o unigolion ar eu safle ym Mrychdyn a thua 500 arall yng Nghasnewydd. Ledled y DU, mae dros 100,000 o swyddi’n dibynnu ar bresenoldeb Airbus ar y glannau hyn. Ers y refferendwm yn 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn na all y DU, wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, gymryd y risg enfawr o dorri ein heconomi’n rhydd o drefniadau’r undeb tollau a'r farchnad sengl. Rydym ni wedi cyflwyno'r achos, yn glir ac yn gyson, bod yn rhaid i unrhyw gytundeb i adael yr UE ein cadw yn y farchnad sengl a negodi undeb tollau newydd gyda'r UE.

Mae’r rhybudd hwn gan Airbus, ochr yn ochr ag eraill gan wneuthurwyr fel BMW, yn dangos yn glir y bygythiad sy’n ein hwynebu. Yn wir, dydy’r pryderon a fynegwyd gan Airbus yn sicr ddim yn gyfyngedig i'r diwydiant awyrofod. Dim ond heddiw, mae Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron, sef llais y diwydiant modurol yn y DU, wedi rhoi’r rhybudd cliriaf eto i Lywodraeth y DU gan sector busnes, gan ddweud bod arnynt angen, o leiaf, aros yn yr undeb tollau a bargen sy’n rhoi manteision marchnad sengl. Mae eu prif weithredwr, Michael Hawes, wedi anfon rhybudd syml ond clir i Lywodraeth y DU, gan ddweud:

Nid oes difidend Brexit i'n diwydiant ni.

Mae popeth yn y fantol. Mae'n amlwg bod yr amser wedi dod i ben ar gyfer geiriau teg ac ystrydebau diystyr. Nawr, mae angen eglurder ar frys gan Lywodraeth y DU. Mae angen i Lywodraeth y DU roi manylion ynglŷn â’r tri mater allweddol a godwyd yn asesiad risg Airbus: symud rhannau mewn cadwyn gyflenwi integredig, symudiad pobl, ac amgylchedd rheoleiddio’r dyfodol. Gallai tarfu ar lif defnyddiau o ganlyniad i newidiadau i’r farchnad sengl a’r undeb tollau gostio biliynau o bunnoedd, ac arwain at oedi anadferadwy ac at lawer o'n busnesau yng Nghymru yn colli eu mantais gystadleuol. Byddai cyfyngu ar symudiad pobl yn tarfu'n sylweddol ar weithrediadau Airbus, gan fod 1,300 o ddinasyddion y DU a gyflogir gan Airbus yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau o'r UE—y rhan fwyaf o’r rhain yn Ffrainc a'r Almaen—a 600 o ddinasyddion yr UE a gyflogir gan Airbus yn gweithio yng ngweithfeydd Airbus yn y DU. Mae’r trydydd mater allweddol yn ymwneud â rheoliadau ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop yn benodol. Heb gymeradwyaeth yr Asiantaeth hon, fydd cyflenwyr awyrofod y DU ddim yn rhan o gadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu awyrennau mwyach. A does dim modd cynnau a diffodd cadwyni cyflenwi yn sydyn, fel switsh golau. Maen nhw'n cymryd blynyddoedd i’w hadeiladu, ac mae gan fusnesau hawl i ddisgwyl mwy o sicrwydd gan Lywodraeth y DU ddwy flynedd ar ôl y refferendwm.

Mae’r Prif Weinidog wedi pwyso eto am i Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ddynodi newid cyfeiriad i ymrwymo i aros o fewn y farchnad sengl ac undeb tollau gyda'r UE. Rydym ni i gyd yn cydnabod pwysigrwydd y sector awyrofod ac amddiffyn i economi Cymru. Mae'r sector yng Nghymru yn ychwanegu £5 biliwn at ein gwerth crynswth ychwanegol ac yn cyflogi dros 20,000 o bobl. Byddwn yn parhau i gefnogi Airbus ym Mrychdyn a Chasnewydd i liniaru effaith y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati. Rydym ni eisoes wedi dangos ein cefnogaeth i’r sector drwy ariannu’r Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yng Nglannau Dyfrdwy, sy’n werth £20 miliwn, er mwyn sicrhau prototeipiau Airbus ar gyfer adenydd y dyfodol.

Rydym yn annog Llywodraeth y DU i ymateb ac i roi eglurder cyn gynted â phosibl, a chyn i’r sefyllfa hon waethygu hyd yn oed ymhellach. Byddai cyfnod hir o ansicrwydd yn gwneud difrod parhaol i’n sylfaen gweithgynhyrchu yng Nghymru ac i’w gadwyn gyflenwi helaeth—cyflogaeth sydd ym Mrychdyn, a ledled Cymru, yn hanfodol i lawer o gymunedau. Hwn yw’r bygythiad economaidd mwyaf difrifol i wynebu Cymru ers cenhedlaeth. Mae Airbus yn un o brif drysorau economi Cymru, ond hefyd mae'n strategol hanfodol i'r Deyrnas Unedig. Mae'n bryd i gemau parlwr Brexit ddod i ben. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU roi'r sicrwydd sydd ei angen i fusnesau ac i'n heconomi.