Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 26 Mehefin 2018.
I gyfeirio at yr un agwedd y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet amdani yn ei sylwadau ennyd yn ôl am Gymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron yn ymuno ag Airbus fel proffwydi gwae, mae 14 y cant o bob un cerbyd sy’n cael ei gynhyrchu yn yr Almaen yn cael ei allforio i’r Deyrnas Unedig. Pe bai’n rhaid iddynt wynebu treth o 10 y cant ar fewnforion i'r wlad hon am eu bod nhw’n gwneud yr un peth i ni wrth inni allforio i'r UE, byddai hynny'n ddrwg iawn i fuddiannau gweithgynhyrchwyr moduron yr Almaen.
Felly, rwy’n gobeithio bod yr unigolion hyn yn rhoi cymaint o bwysau ar Monsieur Barnier i gytuno ar fargen masnach rydd ag y mae eu cymheiriaid yn y wlad hon yn ei roi ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ildio i holl ofynion sefydliad yr EU. Hoffwn wybod, er enghraifft, a yw pwysigion Airbus wedi ysgrifennu at Monsieur Barnier i gwyno am ei wrthodiad diamod i drafod bargen fasnach rydd synhwyrol, fel y cytunwyd yn ddiweddar â Canada, ac ychydig flynyddoedd yn ôl â De Korea. Pam na ddylem ni gael bargen o'r fath? Beth yw’r gwrthwynebiad gwleidyddol i hynny?
Mae’r ffaith bod cwmni fel Airbus yn cynorthwyo pŵer tramor gelyniaethus sy’n ceisio tanseilio buddiannau Prydain, rwy’n credu, yn warthus, ond tybed a allai hyn fod yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd â’r gwerth $18 biliwn o gymorth gwladwriaethol anghyfreithlon y maen nhw wedi’i gael gan Lywodraethau Ewropeaidd yn y blynyddoedd diwethaf, fel y barnodd Sefydliad Masnach y Byd dim ond mis yn ôl. O ganlyniad i hynny, mae cynrychiolydd masnach yr Unol Daleithiau wedi dweud bod hyn yn braenaru'r tir i’r Unol Daleithiau godi tollau dialgar ar nwyddau o’r UE. Nid dyma sut i fynd ati os ydym ni eisiau llunio polisïau synhwyrol yn Ewrop, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff Llywodraeth Cymru gytuno â mi yn hynny o beth.
Ond y gwir amdani yw bod y datganiad hwn heddiw, wrth gwrs, yn un twyllodrus oherwydd does dim gobaith o gwbl y gwnaiff Airbus gau eu holl weithrediadau yn y wlad hon. Ble arall byddai adenydd yr awyren yn cael eu gwneud? Dyw hi ddim mor hawdd cau a throsglwyddo i rannau eraill o Ewrop neu'r byd. Dewch inni edrych ar gyd-destun cyhoeddi’r datganiad hwn. Faint o gwmnïau enfawr sydd wedi gwneud daroganau gwae tebyg yn y blynyddoedd diwethaf ond y bu'r hyn a ddigwyddodd yn wahanol ac y cafwyd eu bod yn anghywir yn y pen draw? Gwnaeth Lloyd Blankfein o gwmni Goldman Sachs rai o'r datganiadau mwyaf apocalyptaidd am effeithiau Brexit, ac eto, ym mis Ebrill eleni, wrth agor canolfan swyddfeydd newydd gwerth £1 biliwn yn Llundain, dywedodd:
Rwyf yn anghywir oherwydd fy mod yn credu y byddai'r canlyniad wedi bod yn waeth…Mae economi'r DU wedi fy synnu ar yr ochr orau.
Edrychwch ar Siemens: unwaith eto, dywedodd Joe Kaeser, a oedd yn daer o blaid aros yn yr UE, y byddai Brexit yn amharu ar yr economi, y byddai ansicrwydd ynghylch y berthynas â’r UE yn achosi effeithiau negyddol sylweddol tymor hir, y byddai’r DU yn lle llai deniadol i fasnachu, y gallai fod yn ffactor pan fyddai Siemens yn ystyried buddsoddi yn y dyfodol yma, ac eto, ym mis Tachwedd 2017, er eu bod wedi torri 3,000 o swyddi yn yr Almaen a 1,000 ledled Ewrop, cyhoeddodd ef fuddsoddiad o £39 miliwn i ehangu eu ffatri fwyaf yn y DU yn Lincoln, sy'n cyflogi 1,500 o bobl.
Dim ond i droi at Airbus yn olaf, a’u sylwadau blaenorol am hyn, wrth gwrs, mae Airbus yn dweud nawr y byddan nhw’n diddymu buddsoddiad, beth bynnag mae hynny'n ei olygu—neu y gallen nhw ddiddymu buddsoddiad, beth bynnag mae hynny’n ei olygu—os nad oes bargen. Maen nhw mor amwys wrth ddweud ‘os’ ac ‘oni bai’ a rhoi rhybuddion nes ei bod hi’n amhosib dod i unrhyw gasgliadau. Ond dim ond ddwy flynedd yn ôl, wrth gwrs, roedd Tom Enders yn flaenllaw iawn yn y prosiect ofn yn ystod ymgyrch y refferendwm. Mewn un ymyriad ar ôl y llall gwnaeth fygwth diddymu buddsoddiad pe bai’r cwmni’n pleidleisio i adael, ac eto, wrth gwrs, dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny. Ers hynny mae ef wedi cyfaddef bod y cwmni’n bwriadu cadw eu gweithrediadau—fel y dywedodd—yn bell i’r dyfodol. Ysgrifennodd ef at Greg Clark ym mis Chwefror eleni i ddweud eu bod yn ystyried y DU yn wlad sy'n gartref iddynt ac yn lle cystadleuol i fuddsoddi. Mae'r cyfeiriad at 'wlad sy'n gartref iddynt', wrth gwrs, yn bwysig, oherwydd mae hynny'n golygu, wrth ddatblygu strategaeth economaidd yn y cwmni, bod adrannau cenedlaethol Airbus yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth a’u bod yn dylanwadu ar y penderfyniadau ar gynhyrchu a strategaeth.
Felly, hanfod hyn oll, mewn gwirionedd, yw ceisio gwneud yn siŵr na fydd 'dim bargen' o gwbl. Wel, prin fod angen iddo wneud hynny oherwydd mae anallu Theresa May a’r Llywodraeth hollol ddi-glem sydd wedi difetha’n llwyr yr holl gyfleoedd Brexit oedd yn bodoli ddwy flynedd yn ôl eisoes wedi cyflawni’r amcan hwnnw: i bob pwrpas, byddwn yn parhau'n rhan o’r UE, mewn ffurf os nad mewn enw. Felly, does gan Airbus ddim byd i boeni amdano.