Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 26 Mehefin 2018.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am ei gyfraniad yn ei gyfanrwydd? Mae'n ffaith drist bod Shotton yn dal i ddal y record Ewropeaidd am golli’r nifer mwyaf o swyddi mewn un diwrnod yn hanes diwydiannol modern ledled Ewrop. Yn ddiweddar, ces i lun du a gwyn o 1963 o’r prentisiaid a ddechreuodd y flwyddyn honno. Roedd fy nhad yn y llun, a dyna pam cafodd ei anfon ataf fi, ac ar ôl craffu ar y llun hwn, daeth yn glir nad oedd y rhan fwyaf o’r bobl yn y llun hwnnw’n gweithio ar y safle hwnnw o fewn 20 mlynedd ar ôl i’r llun gael ei dynnu. Tybed faint o bobl yn Airbus heddiw fydd â gwaith ar y safle hwnnw ymhen ddau ddegawd pe cawn ni sefyllfa 'dim bargen'.
Rwy’n meddwl hefyd ei bod yn drist iawn bod Shaun, bachgen 15 mlwydd oed, yn gallu cyfleu’n llawer gwell ac yn fwy aeddfed y bygythiadau a'r her sy'n ein hwynebu nag y mae Jeremy Hunt yn gallu ei wneud, o ran beth allai ddigwydd i Airbus a'r diwydiant awyrofod. Nid codi bwganod mae Airbus. Datgan y ffeithiau mae Airbus. Mae Airbus yn gwneud beth ddylai busnes cyfrifol ei wneud, sef rhannu’n ddidwyll, yn blaen, yn agored ac yn onest gyda Llywodraeth beth yw canlyniad tebygol taro bargen wael neu, yn waeth byth, sefyllfa 'dim bargen’, ac nid dim ond Airbus sy’n mynegi’r pryderon hyn.
Rydym ni wedi clywed heddiw bod cwmnïau sy'n cynrychioli tuag 850,000 o bobl ledled y DU yn rhannu’r pryderon difrifol hynny. Er mai Airbus yn amlwg yw'r cyflogwr sector preifat mwyaf yn y gogledd-ddwyrain, ac yn sicr y cyflogwr mwyaf yng Nghymru o ran awyrofod ac amddiffyn, yn y rhan fechan honno o Gymru ceir clwstwr cryf o fusnesau yn y sector awyrofod ac amddiffyn. Airbus wrth gwrs; Magellan; Qioptiq; DECA; Raytheon—busnesau sy'n cyflogi pobl sy'n hynod, hynod fedrus, ac yn cael cyflogau da, pobl sy’n bobl ffyddlon iawn, pobl sy’n gwneud cyfraniad enfawr at yr economi leol ac at economi Cymru yn ei chyfanrwydd.
Rwy’n credu, wrth inni edrych at y dyfodol, bod angen inni fyfyrio ychydig ar y dull clir a chyson iawn y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi’i ddilyn ers y refferendwm, ac mae'n ddull sydd, ar rai achlysuron, wedi cael ei fabwysiadu—ei ddwyn efallai—gan Lywodraeth y DU, yn sicr o ran y mynediad rhydd a dirwystr i'r farchnad sengl. Mae'n rhywbeth, ar adegau, y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio ei efelychu, ar ffurf gormodiaith. Yn anffodus, ni fyddai'r hualau y mae Prif Weinidog y DU wedi’u llunio yn caniatáu i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, yn seiliedig ar y trafodaethau sydd wedi digwydd, ond rwy'n credu bod Keir Starmer wedi gwneud gwaith gwych i ddal Llywodraeth y DU i gyfrif , a’i fod yn parhau i wneud gwaith rhagorol o ran dwyn Gweinidogion Llywodraeth y DU i gyfrif.
O ran yr hyn rydym ni'n ei wneud, rydym ni wedi edrych ar effaith y sefyllfaoedd amrywiol ar economi Cymru, fesul sector, a’r hyn sy'n gwbl glir yw os na fydd bargen, bydd hi’n amhosibl inni liniaru pob un o'r canlyniadau; mae’r sefyllfa’n rhy ddifrifol. Byddai’r economi’n crebachu dros 10 y cant yn ôl pob tebyg, ond mae’r cynllun gweithredu economaidd wedi’i lunio mewn modd sy’n caniatáu defnyddio sefydlogyddion awtomatig, yn hytrach na chefnu ar y strategaeth a mabwysiadu strategaeth newydd ar gyfer amgylchiadau o argyfwng. Mae’r cynllun gweithredu economaidd wedi’i lunio i fod yn gadarn mewn unrhyw amgylchiadau, ond yn amlwg, gan ddibynnu ar y math o fargen—ac a oes bargen o gwbl—a ddaw i'r amlwg yn ystod y misoedd nesaf, bydd cymorth i fusnesau yn canolbwyntio ar y meysydd hynny a fydd yn gallu goroesi'r storm sydd i ddod. Ond dydw i ddim yn meddwl y dylem ni gredu y gallwn ni oddef sefyllfa 'dim bargen' heb golli llawer o swyddi yn economi Cymru.
Rwy’n siarad yn rheolaidd, nid yn unig gyda'm cyd-Aelodau yn yr adran addysg, ond rwyf hefyd yn siarad ag arweinwyr addysg uwch ac addysg bellach ac, unwaith eto, mae ganddyn nhw bryderon gwirioneddol sy’n ddifrifol iawn yn wir.
Rwy’n credu ei bod hi'n deg dweud y dylai Seneddau’r DU gytuno ar unrhyw fargen a gaiff ei tharo. Pe bai’r Seneddau’n penderfynu nad yw’r fargen yn ddigonol ac yn ei gwrthod, yn ôl pob tebyg, gellid galw etholiad cyffredinol, ac mae'n ddigon posibl y byddai’n rhaid cynnal pleidlais arall. Ddylem ni ddim diystyru’r siawns y gallai pobl droi yn erbyn y penderfyniad a wnaethpwyd, o ystyried y bygythiad gwirioneddol sy’n wynebu cynifer o bobl nawr o ran eu bywoliaeth.