6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:38, 26 Mehefin 2018

Diolch am y datganiad. Rydw i wedi cael cipolwg sydyn ar y cynllun 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr', ac rydw i yn eich llongyfarch chi ar rai agweddau o'r cynllun, gan ei fod o yn cynnwys gweithredu penodol ac amserlenni, yn enwedig o ran darparu safleoedd. Yn amlwg, mae yna gynnydd wedi'i wneud yn y maes hwnnw. Yn y cynllun, rydych chi'n dweud hyn:

'rydym wedi gyrru ymlaen gan roi mwy o ffocws ar ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Mae hyn yn adlewyrchu dealltwriaeth fod llawer o broblemau eraill a brofir gan gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn codi o ddiffyg mynediad at lety priodol'. 

Rydw i'n cytuno'n llwyr efo chi yn hynny o beth. Mae yna dystiolaeth bod awdurdodau lleol wedi ymateb i'r her o greu lleiniau newydd a hefyd wedi adnabod safleoedd yn eu cynlluniau datblygu lleol—dim gwaith hawdd, wrth gwrs, yn rhannol yn sgil agweddau a rhagfarnau cyhoeddus, ac mae'r cynghorau i'w llongyfarch, ar y cyfan, ar eu hymdrechion.

Buaswn i'n licio cael eich barn chi am bwysigrwydd dylunio'r lleiniau a'r safleoedd yma yn briodol. A ydych chi'n cytuno efo fi fod angen gwneud hynny mewn ffordd fwriadus, ar y cyd efo'r gymuned, er mwyn ymateb i rai o'r prif heriau sy'n wynebu'r gymuned? Rydw i'n credu ei bod hi'n bwysig bod buddsoddiad digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer creu'r llefydd newydd, gan y gall hynny fod yn fwy cost-effeithiol yn y pen draw, gan arbed arian i wasanaethau cyhoeddus.

Felly, wrth ystyried safleoedd newydd, a hefyd uwchraddio safleoedd, mae'n bwysig rhoi ystyriaeth i'r dylunio, achos, er enghraifft, mae dylunio bwriadus yn gallu mynd i'r afael efo problemau iechyd gwael ymhlith y gymuned yma. Mae'r gymdeithas yma, fel y gwyddoch chi, bum gwaith mwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd o'i chymharu â'r gymdeithas yn gyffredinol. Ond efallai mai prin ydy'r dystiolaeth bod cyfleusterau ar y safleoedd yn cael eu dylunio fel bod modd, er enghraifft, cynnal clinigau ar y safleoedd eu hunain, a byddai hynny, o gael llefydd addas ar gyfer ymweliadau gan weithwyr iechyd, yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i gynnal brechiadau ar gyfer babanod—un enghraifft, mewn ffordd, o beth fyddai'n gallu digwydd mewn clinig ar safle, a hefyd o ran cyfleusterau addysg, yn enwedig ar rai o'r safleoedd mwy.

Mae eich cynllun chi yn dweud bod angen sicrhau bod pob safle presennol yn gwbl addas i’r pwrpas. Buaswn i'n dadlau, felly, fod angen uwchraddio llawer o'r safleoedd presennol. Yn fy mhrofiad i o ymweld ag un neu ddau o safleoedd parhaol, mae'r cyfleusterau ymhell o fod yn addas. Yn aml, mae'r lleiniau yn rhy agos at ei gilydd, nid ydy'r cyfleusterau ymolchi a'r toiledau yn ddigonol nac yn safonol, ac nid oes llecynnau chwarae addas ar gyfer y plant.

Felly, mae'n amlwg bod llawer o'r ffocws wedi bod, cyn belled, ar greu llety addas, ac mae hynny'n hanfodol, wrth gwrs, ond rydw i hefyd yn credu bod angen, rŵan, symud ymlaen i roi sylw i rai o'r prif broblemau: cyflogaeth a sgiliau, iechyd ac addysg. Ac efallai nad ydy'r cynllun mor glir nac mor uchelgeisiol ac y gallai o fod yn y meysydd hynny.

O ran cyflogaeth a sgiliau, mae sôn bod angen i gynlluniau presennol y Llywodraeth gynnig gwasanaethau i'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond rhaid cofio bod y gymuned hon yn wynebu rhwystrau gwahanol i drwch y boblogaeth, ac efallai bod angen cynlluniau wedi eu teilwra yn fwy penodol ar eu cyfer nhw.

O ran addysg, rydw i'n sylwi yn y cynllun nad oes yna set o weithredoedd penodol er mwyn cynyddu cyflawniad y plant a'r bobl ifanc. Mae yna weithredoedd ynglŷn â thaclo bwlian a dysgu Saesneg, sydd, wrth gwrs, yn bwysig, ond mae angen pwyslais ar godi disgwyliadau a gwell cyflawniad hefyd, efallai yn enwedig ymhlith y merched yn y gymuned yma. Felly, tra fy mod i'n eich llongyfarch chi ar rai agweddau o'r cynllunio, a gaf i ofyn cwestiwn fel hyn ar y diwedd: a ydych chi'n cytuno, wrth symud ymlaen, fod angen mwy o waith a mwy o uchelgais ar y rhannau o'r cynllun sydd yn delio efo addysg, iechyd, cyflogaeth a sgiliau, ac y dylid gosod mwy o bwyslais ar yr agweddau yma i'r dyfodol?