Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 26 Mehefin 2018.
Iawn, ydw. Yn olaf, pan gyfarfûm â'r bobl ifanc Sipsiwn gyda chi, credaf y codwyd y mater ynghylch band eang, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd gennych chi unrhyw beth i'w ddweud am hynny.
Ac yna mae'r cwestiwn olaf yn ymwneud â phobl Sipsiwn a Theithwyr sy'n byw mewn tai—a wnaed unrhyw ymdrech i gysylltu â nhw a synhwyro beth y maen nhw'n ei deimlo.