Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 27 Mehefin 2018.
Fel rhywun sydd â diddordeb yn y maes ac sydd wedi trafod hyn eisoes gydag Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n galonogol iawn fod gennym y grant datblygu disgyblion yng Nghymru i roi opsiynau i blant sy'n cael prydau ysgol am ddim, ond hefyd i blant sy’n derbyn gofal a phlant sydd wedi'u mabwysiadu. Ac wrth gwrs, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd rhieni mabwysiadol yn awyddus i'r ysgol fod yn ymwybodol, ac yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn cael y gefnogaeth ychwanegol honno. Pa gynnydd sy’n cael ei wneud ar rannu'r data hwnnw, ac yn benodol, a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi dysgu unrhyw wersi o rai o'r darpariaethau sydd ganddynt ar gyfer rhannu data yn y maes hwn gyda gwasanaethau cymdeithasol a phlant mabwysiedig yn Lloegr?