Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 27 Mehefin 2018.
Wnes i ddim cweit clywed yn ddi-flewyn ar dafod, 'Byddwn, byddwn ni yn cefnogi'r cyngor'. Efallai y gallwch chi ychwanegu'r frawddeg yna wrth ateb fy nghwestiwn nesaf i, os ydych chi'n dymuno gwneud hynny.
Ar begwn arall yr uchelgais sydd yng Nghymru i weld twf mewn addysg Gymraeg, wrth gwrs, mi gafodd nifer ohonom ni fraw o weld bod Cyngor Sir y Fflint yr wythnos diwethaf wedi ystyried opsiwn posib—ac rwy'n falch i ddweud na wnaethon nhw barhau â hynny yn y diwedd—i ddileu trafnidiaeth am ddim i ysgolion Cymraeg yn y sir. Wrth gwrs, nid yw'n ofyniad statudol ac rŷm ni i gyd yn gwybod beth yw'r sefyllfa a'r hinsawdd ariannu ar hyn o bryd, ac felly mae hwn yn gwestiwn sy'n mynd i godi blwyddyn ar ôl blwyddyn ar draws 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hynny yn y pen draw yn mynd i olygu efallai fod yna un awdurdod yn mynd i wneud y penderfyniad yna. Felly, fy nghwestiwn i i chi yw: yn hytrach nag aros tan fod rhywun yn gwneud y penderfyniad posib yna a wedyn efallai trio mynd i'r afael â hynny, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar hyn o bryd, a pha waith ydych chi'n ei wneud gyda'ch cyd-Aelodau o'r Llywodraeth, i sicrhau na fydd cynghorau yn cymryd cam o'r fath, oherwydd byddai hynny nid yn unig yn tanseilio darpariaeth addysg Gymraeg, ond mi fyddai'n gwbl andwyol i addysg Gymraeg mewn nifer o siroedd yng Nghymru.