Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 27 Mehefin 2018.
Y bore yma, gyda Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, bûm yn ymweld â The Number Hub, sef busnes bach yn Ffynnon Taf, ac roedd ganddynt lawer i'w ddweud am ddatblygiadau mewn awtomatiaeth a newid technolegol. Pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i baratoi ar gyfer swyddi'r dyfodol, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar y sgiliau sydd eu hangen yn y sector cwmnïau bach a'r math o swyddi y gallai pobl fod yn awyddus i'w cael mewn mentrau bach a chanolig yn y sector hwnnw yn y dyfodol? Pa newidiadau rydych yn eu rhagweld, a sut y mae paratoi oedolion a dysgwyr ar gyfer y swyddi hynny?