Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 27 Mehefin 2018.
Wel, mae'n rhaid imi ddweud, o ran addysg ysgol orfodol, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol gydymffurfio â'r Mesur teithio gan ddysgwyr, sy'n datgan yn glir pwy sy'n gymwys a phwy nad yw'n gymwys i gael cludiant ysgol am ddim. Mae hefyd yn nodi'r disgwyliad hwnnw mewn perthynas â mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Dywed hefyd fod yn rhaid i unrhyw lwybr y bydd plentyn yn ei deithio, yn enwedig os yw'r llwybr hwnnw'n llwybr cerdded, fod yn destun asesiad llwybrau diogel i'r ysgol. Nawr, mae i'r Aelod awgrymu nad yw awdurdodau lleol yn gweithio ar draws ffiniau neu'n ystyried atebion arloesol i ddarparu cludiant ysgol—nid yw hynny'n wir. Yn fy etholaeth fy hun, gwn fod rhai o fy etholwyr yn teithio y tu allan i'r sir i gael eu haddysg am fod yr ysgol addas agosaf yn digwydd bod yr ochr arall i ffin sirol, ac mae'r sir yn hwyluso hynny. Os oes gan yr Aelod bryderon penodol, mae angen iddi ddwyn y mater, yn y lle cyntaf, i sylw'r awdurdod addysg lleol a'r cyngor sir lleol.