Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 27 Mehefin 2018.
Wel, ie, ac mae'n bwysig, felly, o safbwynt y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, os ydych chi'n sôn am greu mwy o ddisgwyliadau, fod y rheoliadau o gwmpas y WESPs yn adlewyrchu'r dyhead hynny, a byddwn i'n awyddus iawn i weld hynny'n digwydd. Wrth gwrs, rŷm ni'n gwybod bod Aled Roberts wedi bod yn edrych ar y maes yma ac yn parhau i wneud gwaith ar ran y Llywodraeth ar hyn, ac mi wnaeth eich rhagflaenydd chi—. Ac rwy'n siŵr y byddech chi hefyd am gymeradwyo un o'r argymhellion sydd wedi cael ei wneud, sef bod angen symleiddio'r broses o gategoreiddio ieithyddol ysgolion, sef rhywbeth y cyfeirioch chi ato fe yng nghyd-destun yr ymweliad a wnaethoch chi â sir Gaerfyrddin yr wythnos diwethaf.
Roeddwn i hefyd yn darllen erthygl gan Laura McAllister yn y Western Mail dros y penwythnos a oedd yn sôn nid yn unig am symleiddio, ond am fynd â'r peth ymhellach a bod pob ysgol gynradd yng Nghymru yn ddwyieithog, a bod bob plentyn yn cychwyn ysgol uwchradd yn 11 oed yn gallu deall a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg? Byddai hynny'n cyd-fynd â pholisi Plaid Cymru, ond byddai hefyd yn adlewyrchu'r argymhellion a ddaeth o adroddiad yr Athro Sioned Davies nôl yn 2013—ac rydw i wedi codi hyn gyda chi yn flaenorol—sef bod pob plentyn yn dysgu Cymraeg fel rhan o gontinwwm o ddysgu. A allwch chi roi diweddariad i ni ar unrhyw gynnydd sydd wedi digwydd ar y ffrynt yna gan y Llywodraeth? Rŷch chi wedi sôn yn y gorffennol am gyflwyno peth o hyn fel rhan o’r diwygiadau sy’n digwydd o gwmpas y cwricwlwm, ond rwyf i wir yn teimlo nad oes rhaid i ni aros tan ganol y degawd nesaf nes i ni weld tipyn o hyn yn digwydd, ac y dylem ni fod yn gwneud mwy, fel mae sir Gaerfyrddin yn ei wneud, yn cychwyn ar y siwrne yna nawr. Felly, a allwch chi sôn wrthym ni am ba gynnydd mae’r Llywodraeth wedi’i wneud yn y maes yna?