Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 27 Mehefin 2018.
Fe fyddwch yn gwybod bod yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru wedi'i gyhoeddi yr wythnos diwethaf, ac roedd yn dangos dirywiad sylweddol yn lefelau boddhad y cyhoedd gyda'n hysgolion uwchradd yn benodol. Felly, mae'n amlwg fod y cyhoedd yn prysur golli hyder yn eich gallu i gyflawni yn erbyn y genhadaeth genedlaethol a bennwyd gennych. Ac ni ddylai hynny fod yn syndod, gan y gŵyr pob un ohonom inni gael ein canlyniadau TGAU gwaethaf ers degawd y llynedd, ein bod wedi cael ein rhoi yn hanner gwaelod safleoedd y byd yn y set ddiwethaf o brofion rhyngwladol inni gymryd rhan ynddynt, a'n bod ar waelod tabl cynghrair y DU o ran y sgorau PISA hynny hefyd. Ac mae nifer y myfyrwyr o Gymru, wrth gwrs, sy'n mynychu prifysgolion gorau'r DU hefyd wedi gostwng 10 y cant dros y tair blynedd diwethaf. Felly, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw beth bynnag rydych yn ei wneud ar hyn o bryd yn gweithio ac nad yw'n meithrin yr hyder y dywedwch eich bod yn ceisio'i feithrin. Pam fod dysgwyr Cymru yn cael eu gadael ar ôl, a beth ar y ddaear y bwriadwch ei wneud am hynny?