Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 27 Mehefin 2018.
Mae'r Aelod yn nodi pwynt pwysig. Pan fo plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu teithio'n ddiogel gyda'u cyfoedion ar drafnidiaeth ysgol, mae hynny'n rhywbeth i'w ystyried, ond mae angen inni ystyried diogelwch cyffredinol y garfan ar drafnidiaeth ysgol hefyd. Dyna pam fod gennym godau ymddygiad y mae'n rhaid i rieni a phlant gydymffurfio â hwy os byddant yn teithio ar drafnidiaeth ysgol. O ran anghenion dysgu ychwanegol, unwaith eto, bydd ystyried gofynion ac anghenion trafnidiaeth plentyn yn briodol ochr yn ochr â'u gofynion addysgol yn rhan bwysig o'r gwaith o ddatblygu eu cynllun datblygu unigol. Ond mae'n rhaid imi ddweud, Lywydd, er bod gennym ddeddfwriaeth yn y cyswllt hwn drwy ein Bil ADY newydd, mater ar gyfer awdurdodau lleol unigol yw darparu ar gyfer eu dysgwyr. Mae'n amhosibl gwneud penderfyniadau trafnidiaeth unigol o'r canol ar gyfer plant unigol.