Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch. Mae ysgolion ledled Cymru yn croesawu dysgu digidol yn barod ar gyfer ein cwricwlwm cyffrous newydd. Roeddwn yn falch iawn o weld ysgolion o ogledd Cymru yn cyfrannu at ein digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol yn ddiweddar, ac mae'r ysgolion hyn yn cynorthwyo eraill i wireddu ein cenhadaeth genedlaethol i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn ddigidol gymwys.