Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 27 Mehefin 2018.
Weinidog, mae addysg ran-amser yn caniatáu i oedolion sydd eisoes mewn gwaith sicrhau'r lefelau sgiliau uwch sydd ei hangen i sicrhau twf economaidd. Fodd bynnag, mae ffigurau Llywodraeth Cymru wedi dangos bod niferoedd dysgwyr rhan-amser mewn sefydliadau addysg bellach ac mewn lleoliadau dysgu oedolion yn y gymuned yn yr awdurdodau lleol wedi gostwng yn sylweddol yng Nghymru. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wrthdroi'r dirywiad hwn er mwyn sicrhau bod gan Gymru'r gweithlu medrus sydd ei angen arni ac y gall pawb gael mynediad at yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt i gyflawni eu potensial llawn yn eu bywyd yng Nghymru? Diolch.