Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:39, 27 Mehefin 2018

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i'n siŵr bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod cyngor sir Caerfyrddin wedi lansio ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg yr wythnos yma, sy'n gynllun uchelgeisiol iawn ac yn un sydd wedi cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, ac mae e'n gosod y sir ar y ffordd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol. Wrth gwrs, mae'n mynd i roi cyfle i bob disgybl fod yn ddwyieithog erbyn diwedd cyfnod allweddol 2 ac erbyn eu bod nhw'n gadael ysgol gynradd. A wnewch chi felly gadarnhau i ni, fan hyn, y byddwch chi fel Gweinidog, ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn rhoi cefnogaeth 100 y cant i gyngor sir Caerfyrddin wrth iddyn nhw gychwyn ar y siwrnai yma i weithredu'r cynllun strategol Cymraeg mewn addysg yma, oherwydd mae'n bosib na fydd hi'n siwrnai gyfforddus iawn ar adegau, ond gan mai gweithio i wireddu eich uchelgais chi fel Llywodraeth o safbwynt siaradwyr Cymraeg y maen nhw, yna plîs a wnewch chi gadarnhau y byddwch chi'n rhoi cefnogaeth ddiwyro o dan bob amgylchiad i'r strategaeth?