Gwasanaethau Iechyd yn Sir Drefaldwyn

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:42, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n cytuno bod y staff sy'n gweithio yn Sir Drefaldwyn yn ymroddedig iawn. Bydd newidiadau mawr mewn byrddau iechyd cyfagos yn swydd Amwythig ac ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn arwain at symud rhai gwasanaethau ymhellach oddi wrth bobl Sir Drefaldwyn. Gwn ichi ymweld â'r Trallwng yn ddiweddar, a gwn, yn ôl yr hyn a ddeallaf, y byddwch yn ymweld â Llanidloes cyn bo hir. A gaf fi ofyn pa gamau rydych yn eu cymryd i fynd i'r afael â hyn drwy ddarparu gwasanaethau iechyd yn y gymuned i wasanaethu pobl fy etholaeth?