Gwasanaethau Meddygaeth Cwsg

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:55, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb, ac rwy'n croesawu'r gwaith a wnaed ar rywbeth nad yw ei bwysigrwydd wedi ei gydnabod yn ddigonol o bosibl. Gwn fod cwestiynau blaenorol wedi bod, gan Llyr Gruffydd ac eraill rwy'n credu, ynglŷn â'r pwnc penodol hwn. Rwyf wedi derbyn nifer o sylwadau, oherwydd er bod apnoea cwsg a narcolepsi yn cael cydnabyddiaeth yn arbennig, nid yw'r rheini ond yn ddau o'r 70 o anhwylderau cysgu amrywiol a all gael effaith sylweddol iawn ar allu pobl i weithio, ond hefyd i fyw bywydau cyffredin. Un o'r sylwadau a gefais yw mai Cymru yw'r unig wlad heb gyfleuster dynodedig i wneud diagnosis a rheoli anhwylderau cysgu cymhleth a bod lefel y gwasanaeth yn loteri cod post braidd ledled Cymru o ran y ffordd y mae'r gwasanaethau'n gweithredu. Tybed a yw hynny'n rhywbeth y gallai Ysgrifennydd y Cabinet edrych arno'n fanylach a mynd i'r afael ag ef, a gwn y bydd hefyd wedi derbyn sylwadau meddygol penodol ar y mater hwn.