Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 27 Mehefin 2018.
Mae'n gwbl annerbyniol fod oedi o 12 mis wedi bod cyn cyflwyno'r gwasanaeth newydd yma ac mae hyn yn creu problemau gydag anghysondeb yn yr wybodaeth sy'n cael ei rhoi i bobl sydd eisiau'r gwasanaeth, gyda rhai yn cael gwybod nad oes gwasanaeth ar gael, tra, mewn gwirionedd, fod y clinig yn Llundain yn parhau ar gael i bobl o Gymru tan fod y gwasanaeth newydd ar ei thraed. A wnewch chi esbonio pam mae yna oedi, ac a wnewch chi sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei rhannu efo pobl sy’n holi am wasanaethau hunaniaeth rhywedd yn y cyfnod trosiannol yma?