Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 27 Mehefin 2018.
Wel, mae gennyf barch mawr at farn leiafrifol, oherwydd rwyf mewn lleiafrif bach iawn yn y tŷ hwn, ond credaf fod y rheini sy'n arddel y farn honno mewn lleiafrif hyd yn oed yn llai na'r un rwyf ynddo fel arfer.
Ond er fy mod yn cefnogi swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, nid wyf yn meddwl y gallaf gefnogi'r sawl sydd ynddi ar hyn o bryd. Wrth gwrs, rhaid inni barhau i gael Ysgrifennydd Gwladol Cymru, oherwydd mae Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig ac mae yna nifer o faterion o bwys mawr sydd heb eu datganoli, ac ef yw llais Cymru yn y Cabinet. Ond y cwestiwn yw: pa mor effeithiol yw'r llais hwnnw? Dyna'r cwestiwn allweddol yma, a chredaf fod yr enghreifftiau a nodwyd yn y ddadl hon eisoes yn dangos nad yw'r llais hwnnw'n effeithiol o gwbl, mewn gwirionedd.
Nawr, mae pawb yn gwybod fy mod yn sgeptig ar faterion ynni gwyrdd mewn sawl ffordd, ond os ydym yn mynd i gael prosiectau ynni gwyrdd, ymddengys i mi fod ynni'r llanw ac ynni'r tonnau yn cynnig gwell gwerth am arian yn hirdymor na phrosiectau fel ffermydd gwynt, oherwydd mae ynni llanw o leiaf yn rhagweladwy ac nid yw'n ddarostyngedig i natur ysbeidiol haul neu wynt. Ac am y rhesymau a nodwyd ynghylch datblygu technoleg newydd fyd-eang a allai greu sgil-effeithiau pwysig i Gymru, mae yna resymau eraill pam y dylid bod wedi cefnogi'r prosiect hwn.
Nawr, roedd yn gyd-ddigwyddiad yn wir, onid oedd, fod y cyhoeddiad wedi'i wneud ar yr un diwrnod â'r buddsoddiad yn Heathrow, y buom yn aros ers oes pys amdano, mae'n ymddangos—fod y ddau gyhoeddiad wedi'u gwneud gyda'i gilydd. Oherwydd roedd hwnnw, mae'n debyg, yn ddiwrnod da ar gyfer claddu newyddion drwg i Gymru, heblaw fod arnaf ofn na fydd rhuo'r awyrennau jet sy'n codi o Heathrow yn ddigon i foddi'r bloeddiadau o ddicter sy'n dod o Gymru wrth iddi gael ei hanghofio, unwaith eto, ym mlaenoriaethau'r Llywodraeth.
Felly, mae arnaf ofn fod y Llywodraeth wedi gwneud cam â Chymru yn hyn o beth ac mewn llawer o ffyrdd eraill yn ogystal. Ac mae'n ddrwg gennyf, oherwydd mae Alun Cairns yn ddyn hoffus, ond rwy'n ofni bod gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth effeithiol, yn fwy na bod yn hoffus. Rhaid i chi allu sicrhau canlyniadau. Bachgen ysgol oeddwn i pan benodwyd Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, sef Jim Griffiths. Ef oedd fy Aelod Seneddol, a rhaid i mi ddweud, yn yr oddeutu 50 mlynedd ers hynny, rydym wedi gweld ambell un da i ddim yn y swydd honno, ond rwy'n credu y bydd Alun Cairns ymhell i lawr y rhestr ar sail profiad hanesyddol. Ac os edrychwn am gymariaethau hanesyddol, efallai mai'r sarhad seneddol mwyaf dinistriol a ynganwyd erioed yn erbyn Gweinidog yn y Llywodraeth oedd yr un a wnaed gan Disraeli am yr Arglwydd John Russell, pan ddywedodd pe bai crwydryn o bell yn cael clywed bod dyn o'r fath yn Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, fe allai'n hawdd ddechrau deall sut roedd yr Eifftwyr yn addoli pryfyn.