Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch am ildio. Deallaf yn iawn pam eich bod eisiau cyflwyno dadl ar y morlyn llanw, ac fel y gwyddoch, rydym yn rhannu siom y Cynulliad a Chymru na fwriwyd ymlaen â hynny. A ydych chi'n meddwl y gellid bod wedi gwneud achos, fodd bynnag, dros lunio cynnig y gallai pob plaid yma fod wedi'i gefnogi'n eithaf hawdd, a fydda'n dal i fod wedi mynegi anfodlonrwydd wrth Lywodraeth y DU, ond mewn ffordd adeiladol? Felly, roedd ffordd wahanol o'i wneud, a dyna pam rwy'n deall y pwynt a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cynnig o ddiffyg hyder.