Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:41, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf i'n mynd i gymryd unrhyw bregethau ar wariant gan y Prif Weinidog nac, yn wir, y Blaid Lafur. Y Blaid Lafur a adawodd ddiffyg o £150 biliwn yn ôl yn 2010—[Torri ar draws.]—ac rydym ni i gyd yn cofio—[Torri ar draws.] Rydym ni i gyd yn cofio cyn-brif Ysgrifennydd y Trysorlys Llafur, Liam Byrne, a ddywedodd nad oedd unrhyw arian ar ôl. Bu'n rhaid i'r blaid hon glirio'r llanastr hwnnw. [Torri ar draws.] Prif Weinidog—