Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:46, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ni fydd unrhyw faint o gynllunio yn ein helpu ni i recriwtio meddygon mewn achos o Brexit 'dim cytundeb'. Mae'n drychineb. A dweud y gwir, dywedwyd wrth bobl ddwy flynedd yn ôl na fyddai'n digwydd. Nawr, maen nhw'n cael eu paratoi ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' a fydd yn arwain at lawer o bethau, ac mae hi'n iawn i dynnu sylw at hyn. Yr hyn y byddai'n ei olygu yw y byddai'n llawer mwy anodd denu meddygon a nyrsys i'n system iechyd. Mae pob un gwasanaeth iechyd yn y byd gorllewinol yn dibynnu ar staff meddygol o wledydd eraill, gan eu bod nhw eisiau gallu denu'r gorau, o ble bynnag y maen nhw'n dod. Y neges sy'n cael ei anfon allan gan Brydain ar hyn o bryd yw: nid oes croeso i feddygon a nyrsys o wledydd eraill yma; nad dyma'r wlad i ddod iddi, rywsut; mae'n ormod o drafferth i ddod iddi; mae gormod o fiwrocratiaeth yn y dyfodol. Nid dyna yr ydym ni ei eisiau. Ni ellir cynllunio ar gyfer Brexit 'dim cytundeb', oherwydd os na allwn ni ddenu meddygon a nyrsys o wledydd eraill, ni fyddwn yn denu'r niferoedd sydd eu hangen arnom ni yng Nghymru. Dyna pam yr ydym ni'n parhau i ymladd, fel y mae hithau, dros Brexit sy'n synhwyrol ac sy'n gwneud yn siŵr nad yw pobl Cymru yn dioddef.