Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:53, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus yn y fan yma, oherwydd mae'r diwydiant dur, fel diwydiannau eraill, yn dibynnu ar farchnad allforio. Os byddwn ni'n dweud mewn gwirionedd wrth wledydd eraill, 'Dim ond dur o Brydain y caniateir iddo gael ei ddefnyddio ym Mhrydain', byddan nhw'n dweud,' 'Iawn—chewch chi ddim ymuno â'n marchnadoedd ni ychwaith.' Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud.

Yr hyn y mae angen i ni ei wneud, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod ein polisi caffael mor gryf ag y gall fod, cyn belled ag y mae defnyddio dur Cymru yn y cwestiwn. Mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd, wrth gwrs, ein bod ni'n cynorthwyo'r diwydiant i gryfhau o ran allforio. Yn sicr, mae swm bach ond arwyddocaol o ddur yn cael ei allforio i'r Unol Daleithiau, lle mae'r tariffau bellach wedi ei gwneud hi nid yn anodd i ddur Cymru ar y cyfryw, ond yn fwy drud i'w prynwyr yn yr Unol Daleithiau. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn y fan yma o ddweud mai dim ond dur o Brydain sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau ym Mhrydain, gan y bydd gwledydd eraill yn cymryd yr un agwedd wedyn, ac mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio â gwahanu ein hunain o'r farchnad allforio.