Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Mae eisoes trafodaeth wedi bod ynglŷn ag agwedd perchennog Trago Mills tuag at yr iaith Gymraeg, ac roedd y Prif Weinidog yn ateb Siân Gwenllian yn glir iawn nad yw e’n cytuno a’i fod yn anhapus iawn gyda sylwadau fel yna. Ond byddwn i’n gofyn am ddatganiad neu lythyr gan y Gweinidog dros yr iaith Gymraeg i Aelodau i esbonio sut y cododd y sefyllfa yma. Dyma fuddsoddiad a oedd yn cael ei weld a’i bortreadu fel buddsoddiad yn ardal Merthyr Tudful. Mae yna nifer yn gofyn nawr: a gafodd y cwmni yma gymorth o gwbl i fuddsoddi yn yr ardal? Ac, os cafodd e gymorth o gwbl gan y Llywodraeth neu gan y cyngor lleol, onid oedd parch tuag at dreftadaeth a’r iaith leol yn rhan o’r buddsoddiad yna?
Ymhellach—er i beidio ag ailadrodd y cwestiynau sydd eisoes wedi’u gofyn ynglŷn â statws cyfreithiol y Gymraeg—mae agwedd y cwmni yma tuag at leiafrifoedd eraill, os caf i ddweud, dros y blynyddoedd, hefyd wedi dod i’r amlwg: rhywbeth nid ydw i eisiau ailadrodd yn y Siambr yma, ynglŷn â phobl hoyw, er enghraifft. Os dyma’r pris rŷm ni’n gorfod ei dalu am fuddsoddiad, mae’n well inni gadw ein parch a dweud wrth y buddsoddwyr yma lle i fynd, o bosib. Ond, yn benodol, rydw i am ddeall gan y Llywodraeth beth oedd ymwneud y Llywodraeth â’r buddsoddiad yma ymlaen llaw ac a ydy’r Gweinidog, bellach, wedi cysylltu â Trago Mills ac yn gallu rhannu’r cysylltiad yna gyda ni? Rwy’n gwybod bod y comisiynydd iaith wedi gwneud, ond hoffwn i wybod beth mae’r Llywodraeth wedi’i wneud yn ei gylch.
Yr ail beth rydw i am godi gyda chi yw’r ffaith bod diffyg carbon deuocsid ar hyn o bryd. Mae wedi, wrth gwrs, cyrraedd tudalennau’r wasg ynglŷn â diffyg cwrw ar gyfer Cwpan y Byd, ond mae yna rywbeth llawer mwy pwysig yn digwydd yn y diwydiant bwyd ar hyn o bryd. Mae diffyg carbon deuocsid yn golygu nad oes modd pecynnu cig i’w gadw’n ffres, nac ychwaith defnyddio carbon deuocsid sydd yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o 'stun-io' anifeiliaid bellach—nid y dull trydan, yn benodol, sy’n cael ei ddefnyddio, ond carbon deuocsid, fel nwy, sy’n cael ei ddefnyddio. Ac, wrth gwrs, mae’r cwestiwn o les anifeiliaid yn codi yn hynny o beth. Felly, a oes modd i ni gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â defnydd carbon deuocsid ar gyfer lles anifeiliaid a phecynnu bwyd? Ac a oes sicrwydd bod hyn yn cael ei wneud o hyd at y safon rŷm ni’n ei disgwyl yng Nghymru? Yn ail, gan fod hwn, a dweud y gwir, yn tanlinellu pa mor anodd fydd tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, achos mae’r diffyg carbon deuocsid yma’n adlewyrchu’r gadwyn drwy ryw bum ffatri yng ngorllewin Ewrop sy’n cynhyrchu nwy i’r safon rŷm ni’n ei defnyddio, a yw Llywodraeth Cymru, bellach, yn trafod gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â pharatoi i sicrhau cyflenwad digonol cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ac ar ôl?