Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
A gaf i, mewn ffordd, gefnogi galwad Simon am ddatganiad ar fuddsoddiad Trago Mills, ond gan gynnwys hefyd gyfrinachedd yr ohebiaeth ar gyfer mewnfuddsoddwyr? Rwyf ar ddeall bod fy rhanbarth i wedi elwa ar fuddsoddiad o £65 miliwn yn y safle hwn. Condemniwyd ei bennaeth gan Weinidog y Gymraeg a'r Cwnsler Cyffredinol am fynegi ei farn ynghylch arwyddion dwyieithog. Dydw i ddim wedi clywed unrhyw gondemniad tebyg gan unrhyw un yn Llywodraeth Cymru ynghylch gollwng yr ohebiaeth honno yn y lle cyntaf. A oes gennym ni nawr brawf cymeriad addas a phriodol ar gyfer mewnfuddsoddwyr, ac, os felly, a allwn ni, efallai, egluro cwmpas hynny? Dywedodd yr unigolyn dan sylw, yn ôl y South Wales Argus o leiaf, y bydd yr arwyddion croesawu,
'disgrifiadau adrannol, arwyddion lles a diogelwch yn...arddangos y Gymraeg a'r Saesneg', ond dywedodd wedyn nad oedd yn bwriadu
'datblygu lawer mwy ar ei defnydd ar hyn o bryd.'
A wnaiff Llywodraeth Cymru egluro pa safonau a ddisgwylir o ran arwyddion dwyieithog gan fusnesau preifat? A allem ni ddweud hefyd pe byddai unrhyw fewnfuddsoddwr arall neu, yn wir, unrhyw un o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru, yn cwestiynu polisi iaith Gymraeg, yna a allen nhw hefyd ddisgwyl cael eu gohebiaeth gyfrinachol wedi'i datgelu? Arweinydd y tŷ, pa effaith a gaiff hyn, yn eich barn chi, ar barodrwydd pobl o'r fath i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol? A gawn ni ganllawiau ar ba ohebiaeth o'r fath—neu pa mor eithafol y byddai'n rhaid i farn fod er mwyn ei hystyried yn sarhaus, i'r graddau a fydd yn achosi iddi gael ei datgelu yn y modd hwn? Yn olaf, a fydd unrhyw ymchwiliad ynghylch Comisiynydd y Gymraeg a'r gollyngiad hwn?