Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Llywydd, rwy'n teimlo fel pe bawn i wedi cael fy nal mewn sgwrs rhwng dau berson yn y fan yma. Mae'n amlwg y bu gohebiaeth rhyngoch chi ar y mater hwn, ac mae'r Gweinidog yn dangos i mi ei fod ar fin ysgrifennu yn ôl atoch. Mae'n amlwg yn gyfres o raglenni treialu; nid sir Ddinbych yw'r unig awdurdod yng Nghymru nad yw yn y gyfran gychwynnol. Deallaf fod y Gweinidog ar fin ysgrifennu atoch ac egluro'r union sefyllfa ar y mater hwn.