Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Diolch, Llywydd. Ceir dau newid i agenda yfory: mae'r amser a neilltuwyd i gwestiynau Cynulliad llafar y Cwnsler Cyffredinol wedi ei leihau i 30 munud, a hefyd mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio dadl UKIP tan fis Medi.
Dangosir busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.