Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Arweinydd y tŷ, fel yr ydych chi'n gwybod, o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, mae gofyn
'i Weinidogion...lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.'
Pwrpas y rhestr hon yw darparu mynediad i un ffynhonnell ganolog o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o werth enwau lleoedd hanesyddol ac i gynorthwyo'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn ag enwau tai, bryniau, llynnoedd ac ati. Nawr, nid oes dim statws cyfreithiol gyda'r enwau ar y rhestr yma, wrth gwrs, er i mi drio sicrhau hynny flwyddyn ddiwethaf, ond collais bleidlais ar gael Deddf i ddiogelu enwau hanesyddol Cymru. Nawr, yn ddiweddar, rydym ni wedi clywed am ddatblygiadau tai newydd fel Regency Park yn ardal Llanilltern, i'r gogledd o Gaerdydd. Mae'r datblygiad yn agos i safle mynachlog o'r chweched ganrif a sefydlwyd gan Sant Illtud. Ond, yn lle adlewyrchu'r hanes yma, mae'r datblygwr wedi dewis enw hollol anaddas i'r datblygiad, sydd â dim cysylltiad hanesyddol i'r ardal o gwbl. Mae yna esiamplau tebyg o golli enwau hanesyddol ar draws Cymru, ac felly, gan bod y Ddeddf wedi ei mabwysiadu ers peth amser rŵan, a wnaiff y Gweinidog dros ddiwylliant ddod â datganiad gerbron y Siambr yma yn edrych ar effeithiolrwydd y rhestr a'r gwaith sy'n mynd yn ei flaen i hyrwyddo'r rhestr yna? Bydd hyn hefyd yn gyfle i ni i gyd drafod a oes yna ffyrdd eraill allwn ni helpu amddiffyn ein hiaith a'n treftadaeth.