Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Hoffwn i ddychwelyd eto at y bygythiad gan Virgin Media i gau eu cyfleuster yn Abertawe. A gaf i ofyn yn gyntaf i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prif gynnig i geisio achub y safle cyfan ac asiantau'r ganolfan alwadau, ar sail eu hansawdd a'u sgiliau? Yn ail, a gaf i ofyn am ddiweddariad ar y cymorth ar gyfer y staff gweithredol nad ydynt yn y ganolfan alwadau, rhyw 80 ohonynt, sy'n cyflwyno cynnig am safle amgen yn lleol neu ehangu safleoedd eraill yn y de?