Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Yn gyntaf, hoffwn i gytuno'n llwyr â geiriau Julie Morgan ynghylch y newid yn y polisi ar fenywod yn y system cyfiawnder troseddol—nid yn unig ar gyfer y menywod, i sicrhau y cânt gymorth priodol i adsefydlu, ond hefyd i weddnewid bywydau plant carcharorion yn llwyr. Anaml iawn y caiff eu hanghenion nhw eu hystyried yn y distryw a gaiff ei achosi pan fydd menywod yn cael eu cludo i'r carchar.
Yn ail, hoffwn i ychwanegu at yr hyn a ddywedodd Jane Hutt am wisg ysgol yn ystod y tywydd poeth hwn. Mae un o'r ysgolion uwchradd yn fy etholaeth i yn mynnu bod merched yn gwisgo teits yn y tywydd hwn, sy'n wael iawn i'w hiechyd yn ogystal â'u gallu i ganolbwyntio. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Llywodraeth roi rhywfaint o arweiniad ar hyn.
Y prif fater yr hoffwn i ei godi yw tocynnau integredig. Tybed a gawn ni ddatganiad ar hynny, oherwydd clywodd y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gan gyfarwyddwr gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru, ac roedd y datganiad a gawsom yn llai na phendant y byddem ni'n parhau â hyn. Gwn pa mor bwysig yw hyn i bobl ledled Cymru sy'n ceisio mynd o'r bws i'r trên i'r bws i gyrraedd y gwaith, ac rwy'n credu bod angen gwirioneddol i ni gael polisi cydlynol ar hyn. Rwy'n credu ei bod yn hollbwysig i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr bod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhatach na mynd mewn car wrth geisio mynd i'r gwaith neu'r siopau.
Y mater arall yr oeddwn i'n dymuno'i godi, ac nid wyf i'n disgwyl y bydd ateb gennych, ond tybed a gaf i ofyn i'r Llywodraeth lunio datganiad ar fargen deg i athrawon cyflenwi, oherwydd bod llawer o'r asiantaethau sy'n helpu penaethiaid sydd angen cael gafael ar bobl ar frys yn parhau i dorri'r rheoliadau gweithwyr asiantaeth trwy ddefnyddio'r hyn a elwir yn rhanddirymiad Sweden. Bydd yna orymdaith ddydd Sadwrn o orsaf Caerdydd Canolog i New Directions, sydd ar hyn o bryd yn diystyru'r rheoliadau, a meddwl oeddwn i tybed pam y mae Llywodraeth Cymru rhoi unrhyw waith iddyn nhw pan fyddan nhw'n parhau i ddiystyru'r rheoliadau sydd gennym ar hyn o bryd, trwy fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.