Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni gan yr holl bartïon i'r trafodion, ffeiliais fy achos ysgrifenedig â'r Goruchaf Lys ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Gadewch imi fod yn glir: nid yw cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'n Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018. Fel y gwyddoch, drwy'r newidiadau i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a chytundeb rhynglywodraethol, rydym wedi sicrhau amddiffyniadau ar gyfer datganoli yng Nghymru ac wedi gwneud yn siŵr bod cyfreithiau a meysydd polisi sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd yn aros yn ddatganoledig.
Fodd bynnag, mae materion a godwyd gan y Twrnai Cyffredinol ac Adfocad Cyffredinol yr Alban yn eu hachos hwy yn codi cwestiynau ynghylch pob un o'r setliadau datganoli yn y DU ac nid ydynt yn gwbl gyfyngedig i Fil yr Alban nac i setliad datganoli yr Alban. Felly, mae ein cyfranogiad yn achos yr Alban gerbron y Goruchaf Lys yn crybwyll y materion hyn sydd yn ymestyn y tu hwnt i setliad yr Alban ac sy'n ymwneud â gweithrediad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol ar ôl Brexit, ac mae'n hanfodol felly bod gan Gymru lais. Rwy'n dymuno bod yn glir na fyddaf yn trafod y materion penodol sy'n arbennig i Fil yr Alban a setliad datganoli yr Alban, yr ymdrinnir â nhw, wrth gwrs, gan Arglwydd Adfocad yr Alban ac Adfocad Cyffredinol yr Alban. Mae fy achos ysgrifenedig felly yn canolbwyntio ar y pedwar mater a ganlyn.
Yn gyntaf, rwy'n ymdrin â'r cwestiwn o ba effaith y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar gymhwysedd y Cynulliad. Rwy'n dadlau'n gryf y bydd gadael yr UE yn golygu na fydd y pwerau hynny mewn meysydd datganoledig, sy'n eistedd ar hyn o bryd gyda'r UE—er enghraifft o ran cymorth amaethyddol—yn cael eu cyfyngu mwyach gan gyfraith yr UE. Fel y mae'r Goruchaf Lys ei hun wedi nodi yn achos Miller, bydd ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gwella cymhwysedd y deddfwrfeydd datganoledig. Mater i'r Cynulliad yw penderfynu os yw'n dymuno 'cyfuno' rhai o'r pwerau hynny drwy fframweithiau cyffredin ledled y DU neu beidio.
Mae'r ail fater yn ymwneud ag ymarferoldeb deddfwriaethol ymadael. Mae fy achos yn nodi bod deddfu ar gyfer canlyniadau domestig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, pan fo'r canlyniadau hynny yn ymwneud â materion nad ydynt wedi'u cadw, yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn llwyr ac nid o fewn cymal cadw'r cysylltiadau rhyngwladol.
Yn drydydd, rwy'n dadlau ei bod o fewn cymhwysedd y Cynulliad yn llwyr i ddeddfu cyn ymadael er mwyn gwneud y newidiadau angenrheidiol y mae angen iddynt fod ar waith o'r diwrnod cyntaf ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn wir, pe gellid dweud bod y math hwn o ddeddfwriaeth yn torri cyfyngiad cyfredol cyfraith yr EU, byddai'r un peth yn wir am allu'r Senedd i ddeddfu'n gyfreithiol yn y fath fodd cyn diddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972, bwriad sydd wrth wraidd Deddf Ymadael â'r UE Llywodraeth y DU ei hun.
Mae'r pedwerydd pwynt yn fy achos yn ymdrin â chwmpas pŵer y llysoedd i adolygu deddfwriaeth y Cynulliad y tu allan i'r hyn y darperir yn benodol ar ei gyfer dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fel yr eglurodd y Goruchaf Lys yn achos AXA, lle ceir deddfwrfeydd datganoledig a etholwyd yn ddemocrataidd yn gweithredu o fewn cwmpas y fframweithiau datganoli a osodwyd gan y Senedd, ni all llysoedd adolygu eu deddfau ac eithrio ar sail gyfyngedig iawn, a dim ond lle mae hawliau sylfaenol neu hanfod rheol y gyfraith yn y fantol. Roedd yr enghreifftiau a roddodd y llys yn yr achos hwnnw yn cynnwys Deddf a fyddai'n diddymu'r hawl i adolygiad barnwrol, er enghraifft, neu a fyddai fel arall yn diddymu'r hawliau sylfaenol. Yn amlwg, nid yw Bil parhad yr Alban yn ddeddfwriaeth o'r fath eithafol hwnnw.
Rwy'n gobeithio bod hyn yn egluro fy rhan i yn y trafodion hyn. Nid fy ngwaith i, fel y mae rhai yn anghywir—yn wir, yn rhyfedd iawn—wedi awgrymu, yw cefnogi'r Twrnai Cyffredinol a'r Adfocad Cyffredinol yn eu cyfeiriad o Fil yr Alban, ond yn hytrach i wneud yn siŵr bod llais Cymru i'w glywed ar y cwestiynau ehangach hyn, wrth i ddatganoli gael ei amddiffyn gerbron y Goruchaf Lys. A rhag bod unrhyw un yn aneglur ynghylch fy sefyllfa i o ran Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), byddaf yn ailadrodd fy mod yn parhau'n hyderus 100 y cant bod y Ddeddf o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Pe na byddai'r Twrnai Cyffredinol wedi tynnu'n ôl ei gyfeiriad yn dilyn casgliad llwyddiannus y cytundeb rhynglywodraethol, byddwn wedyn wedi amddiffyn y Ddeddf yn llawn gerbron y Goruchaf Lys. Nawr bod yr holl bartïon wedi ffeilio eu hachosion, rydym yn aros am y gwrandawiad, a gynhelir ar 24 a 25 Gorffennaf, a byddaf wrth gwrs yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau Cynulliad am unrhyw ddatblygiadau.