Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar Brexit a'r diwydiant pysgota. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.