Effaith Brexit ar Addysg Bellach ac Uwch

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:30, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, mewn ateb i arweinydd Plaid Cymru yma yn y Cynulliad, dywedasoch wrthym nad oedd gennych chi na'ch Llywodraeth unrhyw gynlluniau ar gyfer GIG Cymru pe byddai, fel sy'n gynyddol debygol erbyn hyn, wrth gwrs, Brexit dim cytundeb. Mewn gwirionedd, eich union eiriau oedd

'Nid oes unrhyw gynllunio ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae'n debycach i bobl yn rhedeg o gwmpas mewn cylchoedd yn sgrechian. Nid oes unrhyw gynlluniau o gwbl ar ei gyfer.'

Nawr, nid wyf i'n siŵr ai dyna'r math o arweinyddiaeth yr oedd pobl Cymru yn ei disgwyl gan rywun a safodd ar sail addewid o sefyll dros Gymru, ond os nad oes gennych chi gynllun ar gyfer y GIG, a allech chi ddweud wrthym ni a yw hynny hefyd yn wir ar gyfer prifysgolion a cholegau Cymru yn wyneb Brexit 'dim cytundeb', ac, os ydyw, pryd yn union fyddech chi'n disgwyl i'r sector addysg uwch ac addysg bellach ddechrau rhedeg o gwmpas mewn cylchoedd yn sgrechian?