Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Wel, bydd y cod lles cŵn wedi'i ddiweddaru yn cael ei osod gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf. Bydd yn atgoffa perchnogion o'u cyfrifoldebau wrth ofalu am eu ci neu gi bach, ac wrth gael gafael arnynt. O ran y mater penodol o werthiannau trydydd parti, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bresennol yn nigwyddiad cyfraith Lucy ddydd Mercher, ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn helpu i lywio'r trafodaethau hynny gyda hi. Byddaf yn gofyn am ddatganiad ysgrifenedig i gael ei gyhoeddi, i ddiweddaru'r Aelodau ar ddatblygiadau wrth iddynt ddigwydd.