Effaith Brexit ar Addysg Bellach ac Uwch

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:34, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf i'n credu ei fod yn gweithio i neb. Y peth cyntaf y bydd academyddion yn eu ddweud wrthych yw eu bod nhw'n dibynnu'n llwyr ar y gallu i weithio mewn gwahanol brifysgolion ledled y byd. Ac os bydd y DU yn cael ei hystyried yn hunangynhwysol, bydd hynny yn anfantais i'r DU, ac os caiff ei hystyried yn ddigroeso, bydd hynny yn anfantais i'r DU. Mae'n gwbl hanfodol bod cydweithredu yn parhau yn y dyfodol, gyda chynlluniau fel Erasmus a Horizon 2020 yn gallu darparu hyd eithaf eu gallu.