Datblygiadau Llain Las

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:58, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae mynediad at fannau gwyrdd yn bwysig iawn yn yr oes sydd ohoni. Mae 96 y cant o drigolion Copenhagen yn byw o fewn taith gerdded 15 munud o ardal werdd neu las sylweddol, ac mae gwaith ar y gweill yn wir i wella'r cyfraddau mynediad hynny hyd yn oed. Mae gan y ddinas wirfoddolwyr bioamrywiaeth sy'n chwarae rhan hanfodol o ran meithrin ardaloedd gwyrdd y ddinas ac mae'r ddinas wedi plannu mwy na 3,600 o goed, llawer ohonynt wedi eu mabwysiadu gan bobl leol a chwmnïau neu sefydliadau. A ydych chi'n cytuno â mi y gall mynediad at ardaloedd gwyrdd dymunol iawn fod y tu mewn i'r ddinas yn ogystal â dim ond o'i chwmpas?