Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Wrth gwrs, mae Ynys Môn yn lle anhygoel ac mae ei hanes yn mynd yn ôl ymhell iawn. Sut ydych chi'n credu y gallwn ni gynnwys yn neunydd hyrwyddo'r ynys honno y cyfnod pan mai hi oedd Rhufain y byd cyfreithyddol, y ffaith ei bod ar y llwybr masnachu ymerodrol Rhufeinig hyd yn oed cyn i Rufain oresgyn yr ynys hon, ei chysylltiadau Arthuraidd gwych a'i chysylltiadau â chwedlau Afallon ac Afallach, y ffaith iddi gael ei meddiannu gan y Llychlynwyr—meddiannwyd hanner yr ynys gan y Llychlynwyr am ddwy ganrif, gan gael effaith enfawr ar ddiwylliant lleol a dadleoliad ar y pryd—a llawer mwy, yn cyd-fynd â'r hanes yr ydym ni'n clywed llawer mwy amdano hefyd?