Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Prif Weinidog, yn 2012, fe wnaethoch chi wadu cyhoeddi i'r South Wales Echo na fyddai adeiladu ar y caeau gwyrdd o amgylch Caerdydd yn rhan o gynllun datblygu lleol honedig y Blaid Lafur. Safodd eich cyd-Aelodau Llafur yn y caeau gwyrdd, a dyfynnaf, ar gyfer y cofnod, 'Nid yw Llafur eisiau adeiladu yn nghaeau Waterhall nac ar unrhyw fannau gwyrdd.'
Mae adeiladu yn digwydd ar y caeau hynny erbyn hyn, a bydd adeiladu ar y cefn gwlad hardd o amgylch Danescourt hefyd oni bai ein bod yn gallu ei atal. Cafodd pobl yng Nghaerdydd eu camarwain. A ydych chi'n derbyn nawr bod adeiladu ar y caeau gwyrdd hynny, a'i fod yn digwydd gan fod y Blaid Lafur wedi rhoi'r caniatâd i'r corfforaethau tai enfawr hyn wneud hynny?