Prosiectau Seilwaith Trafnidiaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:12, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Un o'r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hyrwyddo, trwy Gyngor Bro Morgannwg, yw'r ffordd newydd o gyffordd Meisgyn, fel y'i gelwir, ym Mro Morgannwg i Sycamore Cross. A all y Prif Weinidog gadarnhau os bydd y prosiect hwn yn mynd rhagddo y bydd angen i arian gan Lywodraeth Cymru fod ar gael i'w adeiladu a bod yr arian hwnnw o fewn y gyllideb fel y mae wedi ei phennu ar hyn o bryd?