Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Wel, mater i gyngor Abertawe fydd hynny, ond rydym ni'n disgwyl, wrth gwrs, i awdurdodau lleol gydymffurfio â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac i chwilio am gyfleoedd i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu beicio a beicio'n ddiogel. Nid wyf i'n gyfarwydd â'r mater cynllunio penodol y mae'r Aelod yn sôn amdano, ond gallaf ei sicrhau mai barn y Llywodraeth yw ein bod ni eisiau gweld mwy o gyfleoedd yn ymddangos i feicio a cherdded yn y dyfodol.