2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:15, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr adroddiad gan Centre for Cities sy'n dweud y dylai canol dinasoedd sy'n ei chael hi'n anodd roi diwedd ar eu dibyniaeth ar fanwerthu drwy newid siopau i swyddfeydd a thai? Yn ôl yr adroddiad hwn, mae swyddfeydd yng nghanol dinasoedd llwyddiannus fel Bryste a Manceinion yn ddwy ran o dair o'r gofod masnachol sydd ar gael, ac roedd manwerthu yn 18 y cant o hynny. Yng nghanol dinas Casnewydd, roedd 54 y cant o ofod masnachol yn lleoedd manwerthu, ac mae 28 y cant o'r siopau yn wag. Hefyd, mae nifer y bobl sy'n byw yng nghanol dinas Caerdydd wedi cynyddu gan 88 y cant rhwng 2002 a 2015. Canol dinas Abertawe, 63 y cant yn ystod yr un cyfnod. Yng Nghasnewydd, cynnydd o 20 y cant yn unig, Gweinidog.

A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ganfyddiadau'r adroddiad hwn, ac ar sut y gallwn ni roi bywyd yn ôl i ddinasoedd a threfi fel Casnewydd, os gwelwch yn dda?