2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:30, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, roeddem ni'n falch iawn o weld y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, ac roeddwn i'n arbennig o falch gyda'r trefniadau llongau mordeithio yn Ynys Môn, yr ydym ni'n gobeithio, yn fawr iawn, y byddwn ni'n gallu eu dyblygu mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae'r Gweinidog yn dangos i mi y bydd yn fwy na pharod i gyflwyno datganiad i'r perwyl hwnnw, felly byddaf yn cysylltu ag ef ynghylch yr amseru gorau ar gyfer hynny.